Joseph Rodgers

Mae ein cwch hir Celtaidd wedi ei enwi er cof am un o arwyr llongddrylliad trasig y cliper stêm, Y Royal Charter.

Joseph Rogers being named by Raymond Agius

Roedd Joseph Rodgers (Guzeppi Ruggier) yn forwr o Malta ac yn aelod o griw y Siarter Frenhinol. Pan gafodd y llong ei dryllio oddi ar Moelfre yn y storm waethaf yn y 19eg Ganrif, fe lwyddodd i nofio i'r lan gyda rhaff. Oherwydd hyn, bu'n bosib gosod Breeches Bwi / Bosun, sef cadair i gario pobl o'r cwch i'r lan. Bu hynny ac ymdrechion arwrol y bobl leol, trwy ffurfio cadwyn ddynol yn y tonnau, arwain i achub nifer o fywydau.

O'r 376 o bobl ar fwrdd y Royal Charter dim ond 18 o deithwyr, 5 o'r 11 rigwyr, a 18 o'r criw cafodd eu hachub cyn i'r llinell dorri (bu'r menywod a'r plant i gyd cael ei ladd). Heb ddewrder Joseph Rodgers, yn sicr byddai lawer mwy o fywydau wedi cael eu colli. Nid trwy boddi achoswyd y rhan fwyaf o'r farwolaethau, ond trwy chwalu cyrff yn erbyn y creigiau - er gwaethaf hyn, gwynebodd Joseph Rogers a'r pentrefwyr lleol y moroedd mawr i geisio achub bywydau gweddill y criw a'r teithwyr .

Mae'r llongddrylliad yn nodedig hefyd am yr ysgogiad roddodd i Capten Robert Fitzroy, o'r Llynges Frenhinol ac yn bennaeth y Swyddfa Dywydd, i ddatblygu'r gwasanaeth rhybuddio stormydd cyntaf. Defnyddiwyd y data a gasglwyd o bob cwr o'r wlad am y cyflymder a chyfeiriad y gwyntoedd i ddiffinnio'r 'seiclon perffaith'. Fe ddefnyddiwyd y diagram i ddarlunio'r Bwrdd Masnach Ffurflenni Llongddrylliad am 1859.

Gellir darllen mwy am Joseph Rodgers ar wefan ei hynafiad, yr Athro Raymond Agius ', (sef ffynhonnell y ffotograffau yma).

Access: